Er ein bod yn darparu rhywfaint o wybodaeth i artistiaid a sefydliadau yn y DU sy’n cynllunio ymweliadau creadigol yn rhyngwladol, fel ein gweminarau, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â sefydliadau a phwyntiau gwybodaeth yn y tiriogaethau rydych yn bwriadu ymweld â nhw. Mae yna hefyd lawer o wybodaeth ar gael trwy ffynonellau swyddogol fel gwefannau'r llywodraeth a llysgenadaethau.

 

Sefyliadau yw Pwyntiau Gwybodaeth Symudedd (MIPs) sy’n helpu artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol gyda materion gweinyddol symudedd trawsffiniol, trwy wasanaethau gwybodaeth ac ymgynghori rhad ac am ddim. Gall rhai o’r materion allweddol gynnwys fisas, yswiriant cymdeithasol, trethi a thollau.

Gallwch ddod o hyd i Bwyntiau Gwybodaeth Symudedd ac adnoddau yma