Mae’r cynnwys a’r wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon wedi’u bwriadu fel canllaw ac nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol.

Er y bydd Gwybodfan Celf y DU yn ymateb i ymholiadau ac yn cynorthwyo i ddod o hyd i wybodaeth swyddogol sy'n briodol i'ch sefyllfa, os oes angen cyngor cyfreithiol unigol arnoch, dylech gysylltu â chyfreithiwr cymwys.

Mae Gwybodfan Celf y DU wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a’r cynnwys a ddarparwn yn gywir ar adeg ei bostio. Fodd bynnag, er ein bod yn ymrwymo i adolygu a diweddaru gwybodaeth a dolenni yn rheolaidd, nid yw'n bosibl gwarantu'n llawn bod y wybodaeth hon bob amser yn gyfredol ac yn gywir. Ffynonellau Llywodraeth y DU yw lle y gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth a'r canllawiau swyddogol bob amser.

Rydym hefyd yn cycyfeirio at nifer o adnoddau a gwefannau allanol yr ydym yn credu eu bod nhw'n ddefnyddiol ac yn cyflwyno gwybodaeth mewn modd defnyddiol i artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol. Fodd bynnag, nid yw Wybodfan Celf y DU yn gyfrifol am gywirdeb na dibynadwyedd y wybodaeth a ddarperir gan ddolenni trydydd parti y gallwch gael mynediad iddynt trwy ein gwefan. Mae Gwybodfan Celf y DU yn gwadu pob atebolrwydd sy'n deillio o ddefnyddio gwefannau trydydd parti.