Cafodd y fersiwn yma ei adolygu gan Latitude Law ac mae'n gywir o fis Ionawr 2025. Mae'r wybodaeth am gostau fisa wedi cael ei ddiweddaru ers mis Ebrill 2025.
Mae Canllawiau Gwybodfan Celf y DU am Fisâu wedi’i greu i’ch helpu chi i ddeall yr opsiynau fisa sydd ar gael wrth gynllunio ymweliad creadigol â’r DU at ddibenion gwaith. Y nod yw helpu sefydliadau, artistiaid a gweithwyr proffesiynol rhyngwladol, yn ogystal â sefydliadau creadigol, lleoliadau ac artistiaid yn y DU a fydd yn cynnal ac yn croesawu artistiaid rhyngwladol i’r DU. Y nod yw diwygio’r canllaw hwn bob blwyddyn, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth y byddwn ni’n ei rhoi wedi’i diweddaru.
Cafodd y canllaw hwn ei ddrafftio gan arbenigwyr cyfreithiol, ond ni ddylid ystyried y canllaw yma yn gyngor cyfreithiol. Os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch, dylech ymgynghori â chyfreithiwr cymwysedig. Darllenwch ein Hymwadiad Cyfreithiol llawn yma