Er bod pwyslais Gwybodfan Celf y DU ar roi gwybodaeth i artistiaid rhyngwladol sy’n dod i’r DU, rydyn ni’n deall bod angen dirfawr yn sector celfyddydau’r DU am eglurder ynghylch symudedd allan i’r UE, a hynny ar unwaith. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid i’w cyfeirio nhw at y wybodaeth berthnasol.

I artistiaid, sefydliadau celfyddydol a chwmnïau yn y DU sy’n cynllunio ymweliadau creadigol ag Ewrop, mae llawer o wybodaeth newydd y mae’n rhaid ichi ei hystyried bellach. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n ymweld â dudalen Gadael y DU i gael rhagor o wybodaeth, gan gysylltu â’r wybodfan symudedd yn y wlad neu’r gwledydd rydych chi’n ymweld â nhw.

I artistiaid yn yr UE neu Ardal Economaidd Ewrop sy’n dod i weithio yn y DU, bydd angen ichi ddeall beth sydd wedi newid a sut mae hyn yn berthnasol i’ch maes gwaith chi. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n ymweld â dudalen Dod i’r DU i gael rhagor o wybodaeth, neu cysylltwch â ni fan hyn