Er bod ein pwyslais ar roi gwybodaeth i artistiaid rhyngwladol sy’n dod i’r DU, rydyn ni hefyd yn deall bod angen gwybodaeth ar weithwyr creadigol proffesiynol yn y DU sy’n cynllunio ymweliad rhyngwladol fel rhan o’u gwaith.

Rydyn ni wedi cynnal a recordio gweminarau i helpu i roi gwybodaeth ac eglurder i’r rheini sy’n gadael y DU ar ymweliadau creadigol. Mae’r rhain i’w gweld ar ein tudalen ‘Gweminarau’ isod.

Rydyn ni’n rhan o rwydwaith o wybodfannau am symudedd diwylliannol, a hynny fel aelodau o On The Move. Sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Ewrop a’r Unol Daleithiau yw’r rhain yn bennaf, ac fe allan nhw eich helpu i gael mwy o wybodaeth wrth ichi gynllunio ymweliad creadigol â’r ardaloedd dan sylw. Mae mwy o wybodaeth am y rhwydwaith o wybodfannau am symudedd diwylliannol ar ein tudalen, ‘Gwybodfannau Ledled y Byd’ isod.

Mae ein hadnoddau am symudedd wrth adael y DU yn rhoi pwyslais yn bennaf ar ymweliadau creadigol â’r Undeb Ewropeaidd (yr UE).Nid oes rhyddid i symud bellach rhwng y DU a’r UE, ac mae’r UE bellach yn ystyried y DU yn ‘drydedd wlad’. Rhaid ichi fel gwladolion y DU bellach ystyried a dilyn rheolau’r gwledydd unigol y byddwch chi’n ymweld â nhw fel rhan o’ch gwaith, yn ogystal â rheolau Schengen, gan ddibynnu ar natur eich ymweliad.Mae mwy o wybodaeth am ymweliadau creadigol ag Ewrop ar ein tudalen ‘Ymweliadau Creadigol ag Ewrop’ isod.

Mae cod lliw a thag ar gyfer pob adnodd:

Gwyn: Canllawiau Swyddogol
Bydd yr adnoddau hyn wastad yn rhoi dolenni i’r wybodaeth swyddogol ar wefan Llywodraeth y DU neu safleoedd adrannol Llywodraeth y DU fel y Swyddfa Gartref.

Gwyrddlas: Ein Hadnoddau Ni
Adnoddau rydyn ni ein hunain wedi’u datblygu yw’r rhain er mwyn dod â gwybodaeth ynghyd am bynciau sy’n ymwneud â symudedd, fel ein Canllawiau am Fisâu a’n gweminarau.

Glas Golau: Adnoddau Allanol
Mae’r adnoddau hyn wedi’u datblygu gan sefydliadau amlwg sydd ag arbenigedd rhyngwladol.

Cysylltwch â ni os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano fan hyn.


Ni ddylid ystyried cynnwys y wefan hon yn gyngor gyfreithiol a nid yw Gwybodfan Celf y DU yn gyfrifol am wybodaeth a ddarperir gan ddolenni trydydd parti y gallwch gael mynediad iddynt trwy ein gwefan.
Darllenwch ein Hymwadiad Cyfreithiol llawn yma.