Ar dydd Mawrth y 21ain o Hydref fe wnaethom gynnal bore coffi ar y pwnc ‘Egluro rheolau ar gyfer artistiaid a gweithwyr diwyliannol proffesiynol sy'n ymweld â’r ardal nad ydynt yn aelodau o’r UE’. Nod y sesiwn oedd egluro beth yw ardal Schengen a chwalu’r dirgelwch ynghylch rheolau sy’n effeithio ar artistiaid sy’n ymweld.
Fe wnaeth Anita Debaere (Cyfarwyddwr) a Beatriz Nobre (Cynghorydd Materion Ewropeaidd) o PEARLE* Live Performance Europe, ymuno â ni, yn ogystal â Sebastian Hoffmann o touring artists i egluro rheolau ardal Schengen ac yn ateb cwestiynau.
Isod gallwch wylio recordiad o gyflwyniad Anita a Beatriz yn ogystal a gweld a lawrlwytho copi o’r cyflwyniad.
Mi fydd cwestiynau ac atebio o’r sesiwn yn cael eu cyhoeddi yma yn fuan. Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau yn dilyn gwylio’r recordiad ac edrych dros y cyflwyniad yna cysyllwch â ni drwy ddanfon e-bost at infopoint@wai.org.uk.
