Mae angen llawer o gynllunio ar gyfer cydweithio yn rhyngwladol mewn nifer o feysydd. Yn eu plith mae:


Fisâu – pa lwybr fisa yw’r un mwyaf addas a pha ddogfennau fydd eu hangen arnoch chi?  


Cludo eich gwaith – beth mae angen i chi ei ystyried wrth gludo neu werthu gweithiau celf, offerynnau, propiau, neu nwyddau eraill?


Trethi a nawdd cymdeithasol – a fydd angen i chi dalu trethi ar eich enillion?


Gofal iechyd a chanllawiau Covid-19 – sut fyddwch chi’n cael gafael ar wasanaethau iechyd tra byddwch chi yn y DU a beth yw’r rheolau Covid-19?

Mae’r wybodaeth swyddogol am y pynciau hyn i’w chael gan nifer o wahanol adrannau yn Llywodraeth y DU, ac fe all fod yn gymhleth. Rydyn ni wedi datblygu adnoddau i’ch helpu i lywio drwy’r pynciau hyn ac rydyn ni’n eich cyfeirio at y rhain drwy’r tudalennau isod, yn ogystal ag at adnoddau eraill a allai eich helpu.

Cysylltwch â ni os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano fan hyn.