Cynhaliwyd y sesiwn yma ar 11-03-2024 dan arweiniad Úna Boyd, Cyfreithiwr a Chydlynydd Prosiect Mewnfudo, The Committee on the Administration of Justice. Wedi Brexit mae Gogledd Iwerddon mewn sefyllfa unigryw gan eu bod yn rhan o’r DU ond hefyd yn rhannu ffin tir ag Iwerddon ac felly’r UE.
Cafodd y sesiwn wybodaeth anffurfiol yma ei hanelu at artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n teithio i Ogledd Iwerddon ac sy’n ymwneud â gwaith tymor byr (e.e. cyd-gynhyrchiadau, rhan o daith, neu weithgaredd ar ei ben ei hun).
Roedd y sesiwn yma yn edrych ar fisa mewnfudo a gofynion mynediad ac yn rhoi cyd-destun i’r materion unigryw i’w hystyried wrth ddod i mewn i Ogledd Iwerddon.
Mae gan ddinasyddion Prydeinig a Gwyddelig yr hawl i weithio a symud yn rhydd ar draws Iwerddon a Phrydain o dan reolau Ardal Deithio Gyffredin (Common Travel Area CTA) heb fod angen fisas.