Mae cydweithio a chyfnewid rhyngwladol yn rhan allweddol o sectorau diwylliannol bywiog y DU. Mae’r ffaith bod y DU wedi gadael yr UE yn golygu bod y DU yn cael ei hystyried yn drydedd wlad, ac mae’r rhyddid i symud wedi dod i ben. Mae gan bob gwlad bellach reolau sy’n berthnasol i wladolion y DU, gan gynnwys rheolau ynghylch fisâu a thrwyddedau gwaith, trethi a thollau, yn dibynnu ar natur eich ymweliad.
Gall fod yn anodd deall sut mae’r rheolau a’r prosesau hyn yn berthnasol i’ch cynlluniau ar gyfer gweithio yn Ewrop. Rydyn ni wedi cynnal gweminarau gyda’n rhwydweithiau a’n partneriaid ledled Ewrop sy’n rhoi gwybodaeth glir am rai o’r newidiadau hyn. Fe allwch chi wylio’r gweminarau hyn ar ein tudalen ‘Gweminarau’ fan hyn.
Rydyn ni’n rhan o rwydwaith o wybodfannau am symudedd diwylliannol, a hynny fel aelodau o On The Move. Sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Ewrop yw’r rhan fwyaf o’r rhain, ac fe allan nhw eich helpu i gael mwy o wybodaeth wrth ichi gynllunio ymweliad creadigol.
Mae mwy o wybodaeth am y rhwydwaith o wybodfannau symudedd diwylliannol ar dudalen Gwybodfannau Symudedd Ledled y Byd yma.
Mae’r adnoddau isod yn rhoi cyflwyniad i’r prosesau sydd wedi’u cyflwyno i weithwyr proffesiynol o’r DU sy’n cynllunio ymweliad creadigol â’r UE.