Dydd Iau 26ain o Fehefin fe gynhaliom Fore Coffi ar Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop (NEMO) newydd. Fe wnaeth Søren Merrild Staun o'r Gronfa Diwylliant Nordig ymuno â ni i esbonio'r gronfa ac ateb cwestiynau.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gronfa Diwylliant Nordig (mewn partneriaeth ag asiantaethau ariannu celfyddydau Cymru, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr) gronfa symudedd newydd o’r enw Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop. Bydd yr alwad ariannu yn agor yn Awst 2025 i gefnogi cyfnewid a chydweithio artistig i ymarferwyr ar draws y rhanbarth Nordig, y DU ac Iwerddon.
Mae'r gwledydd Nordig, y DU ac Iwerddon yn lleoedd ffrwythlon i gydweithio’n greadigol. Erbyn hyn mae gweithio ar draws y rhanbarth yn anos gyda chostau cynyddol a rhwystrau newydd i symudedd. Mae’r alwad i ymarferwyr celfyddydol unigol ar ddechrau eu gyrfa gan gydnabod eu hangen arbennig am gyfleoedd ac arian.
Nod y rhaglen yw meithrin cydweithio rhyngwladol, datblygu rhwydweithiau artistig ac annog rhagor o ymarferwyr celfyddydol i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol. Mae angen brys am undod, cydweithio a chyd-ddeall rhwng ein cymdogion.
Y gronfa fydd yn gweinyddu'r alwad agored. Bydd yn gyfle i artistiaid yn y DU ac Iwerddon wneud ceisiadau i ymgysylltu ag ymarferwyr eraill yn y gwledydd Nordig - Denmarc, Ynysoedd Ffaröe, y Ffindir, yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ, Norwy, Sweden ac Ynysoedd Åland (ac i'r gwrthwyneb) gyda grantiau o hyd at € 9,000 yr un. (€ 300,000 yw cyfanswm y gyllideb.)
Gallwch ddarganfod mwy a darllen y canllawiau yma.
Gallwch wylio’r recordiad isod: