I ddod i mewn i’r DU ar ymweliad creadigol, mae’n debygol y bydd angen ichi gael caniatâd i ddod drwy ffin y DU mewn rhyw ffordd. Fe all gwybodaeth am fisâu lethu pobl, ac ar brydiau fe all fod yn ddryslyd. Mae nifer o opsiynau ar gael ichi, yn dibynnu ar wahanol ffactorau. Ymhlith pethau eraill, maen nhw’n cynnwys eich cenedligrwydd, pa fath o waith rydych chi’n bwriadu ei wneud yn y DU, faint o amser y byddwch chi’n ei dreulio yma, ac a fyddwch chi’n cael eich talu am y gwaith.
Isod, mae nifer o adnoddau i’ch helpu i ddeall y llwybrau mynediad sydd ar gael ichi.
Mae Canllawiau Gwybodfan Celf y DU am Fisâu yn adnodd cynhwysfawr a fydd yn eich tywys drwy’r gwahanol fisâu a’u gofynion. Drwy ein Canllawiau am Fisâu, rydyn ni’n eich cyfeirio at ddolenni perthnasol ar wefan Llywodraeth y DU er mwyn ichi gael mwy o wybodaeth am y llwybrau mynediad sydd ar gael.
Ceir hefyd adnoddau defnyddiol ac adnoddau ychwanegol ar wefan Llywodraeth y DU nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn y Canllawiau am Fisâu – mae’r rhain wedi’u rhestru isod o dan Canllawiau Llywodraeth y DU am Fisâu.
Yn ein gweminar ‘Cyflwyniad i symudedd artistiaid o’r UE i’r DU’, mae’r arbenigwyr mewnfudo, Latitude Law, yn crynhoi’r gwahanol opsiynau fisa sydd ar gael ar gyfer ymweliadau creadigol â’r DU. Rhoddir pwyslais ar yr hyn sydd wedi newid i wladolion yr UE, ond bydd y wybodaeth yn ddefnyddiol i bob artist rhyngwladol.