Mae’r weminar hon yn gyflwyniad da i ddeall y gwahanol opsiynau fisa sydd ar gael a’r rhai mwyaf addas i chi wrth ymweld â’r DU a gweithio yn y DU. Mae’r wybodaeth yn cael ei chyflwyno gan y cyfreithwyr mewnfudo, Latitude Law, ac mae’n rhoi canllawiau sy’n addas i bob artist rhyngwladol, er bod y sesiwn yn canolbwyntio ar y newidiadau y mae dinasyddion yr UE a’r DU yn eu hwynebu.

Cofiwch mai rhoi arweiniad yn unig mae’r wybodaeth – efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch o hyd, yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Recordiwyd y weminar hon ar 29 Medi 2021 ac roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg y recordio.

Lawrlwythwch cyflwyniad Latitude Law yma.