Ar y 10fed o Fedi 2024 fe wnaethom gynnal bore coffi yn egluro trefniadau ffiniau newydd yr Undeb Ewropeaidd; System Gwybodaeth ac Awdurdodi Teithio (ETIAS) a system Mynediad/Ymadael (EES).
Mae cynnwys y gweminar yn gywir, fodd bynnag mae oedi gyda lansiad EES ym mis Tachwedd. Mae ETIAS yn dal i gael ei gynllunio ar gyfer Gwanwyn 2025 ond gallai gael ei effeithio gan achosi oedi i EES. Ewch i'r tudalennau swyddogol am y newyddion diweddaraf yma.
Dyma recordiad o'r bore coffi yna.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau wedi i chi wylio'r recordiad uchod yna cysyllwch a ni ar ebost: infopoint@wai.org.uk
Lawrlwythwch copi o'r cyflwyniad yma
Cwestiynau ac Atebion o'r sesiwn
C: Beth yw'r rheolau nawr ar gyfer gwladolion y DU sy'n teithio i Iwerddon?
A: Ni fydd Iwerddon yn rhan o'r cynlluniau EES ac ETIAS gan nad yw'n rhan o Ardal Schengen. I wladolion y DU sy'n teithio i Iwerddon, bydd yr un rheolau ar waith ag o'r blaen - bydd hyn hefyd yn wir am wladolion eraill o drydedd wlad.
Mewn gwirionedd, ni fydd unrhyw beth yn newid yn Iwerddon. Sylwch mai Cyprus yw'r unig wlad arall yn yr UE na fydd yn defnyddio'r system EES (am y tro), ond bydd angen cael ETIAS i deithio i'r wlad. Yn wahanol i Gyprus (y disgwylir iddo ymuno ag Ardal Schengen yn fuan) mae gan Iwerddon sefyllfa benodol o ystyried yr Ardal Deithio Gyffredin. Felly, ni ddisgwylir i unrhyw newidiadau ddigwydd yn y dyfodol agos.
C: Beth yw'r rheolau ar gyfer deiliaid pasbort Iwerddon neu unigolion sydd â chenedligrwydd deuol yr UE o ran EES ac ETIAS?
A: Mae deiliaid pasbort Iwerddon ac unigolion sydd â phasbort yr UE wedi'u heithrio o EES ac ETIAS wrth ddefnyddio eu pasbort UE i deithio yn Ardal Schengen. Os oes gennych genedligrwydd deuol (er enghraifft, pasbort y DU ac Iwerddon) a'ch bod yn teithio ar eich pasbort UE, ni fydd angen ichi wneud cais am ETIAS na bod yn destun EES. Ond os byddwch yn dewis teithio ar eich pasbort yn y DU, bydd ETIAS ac EES yn berthnasol gan y byddwch yn cael eich ystyried yn wladolyn trydedd wlad.
C: Sut mae'r rheolau'n berthnasol i berson sydd â dau basbort o'r un cenedligrwydd, er enghraifft, 2 basbort yn y DU, yn enwedig o ran y rheol 90/180 diwrnod?
A: I berson sydd â dau basbort o'r un cenedligrwydd, fel dau basbort y DU, mae'r rheol 90/180 diwrnod, ETIAS, ac EES i gyd yn berthnasol yn seiliedig ar eich cenedligrwydd a'r amser a dreuliwch yn Ardal Schengen, nid nifer y pasbortau sydd gennych. Dyma sut mae pob system yn gweithio:
-
Rheol diwrnod 90/180: Gall dinasyddion nad ydynt yn rhan o'r UE, gan gynnwys gwladolion y DU, aros yn Ardal Schengen am hyd at 90 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 180 diwrnod. Mae'r terfyn yn berthnasol ni waeth faint o basbortau sydd gennych
-
ETIAS: Dim ond unwaith y bydd angen ichi wneud cais am ETIAS, hyd yn oed os oes gennych sawl pasbort o'r un cenedligrwydd. Bydd awdurdodiad ETIAS yn gysylltiedig â'r pasbort yr ydych wedi’i ddefnyddio i ymgeisio. Wrth deithio, rhaid ichi gyflwyno'r pasbort penodol yna i ETIAS fod yn ddilys
-
EES (System Mynediad/Ymadawiad): Nid yw dal dau basbort y DU yn effeithio ar sut mae'r system yn monitro eich teithio. Bydd y rheol 90/180 diwrnod yn dal i fod yn berthnasol a bydd eich amser at ei gilydd yn Ardal Schengen yn cael ei gyfrif, ni waeth pa basbort rydych yn ei ddefnyddio
C: Beth sy'n digwydd os oes problem dechnolegol ar y ffin ac nad yw'r systemau cyfrifiadurol yn gweithio?
A: Bydd yr holl fanylion yn gysylltiedig â'ch pasbort. Os oes problem dechnegol ar y ffin efallai y bydd angen ichi siarad â swyddogion y ffin a fydd yn gwirio eich pasbort.
C: Ydy EES/ETIAS yn berthnasol i bob diben teithio - busnes a phersonol?
A: Nid oes ots beth yw pwrpas eich taith.
C: Oes unrhyw bethau eraill y bydd angen inni eu gwneud cyn mynd am daith wythnos yn Ffrainc (gydag arian yn cael ei dalu i'n hasiant archebu)?
A: Oes, bydd angen ichi edrych a oes angen teitheb neu drwydded waith arnoch sy'n addas at ddiben eich ymweliad. Yn ogystal, dylech edrych ar oblygiadau treth a nawdd cymdeithasol. Cysylltwch â Mobicultur fel Pwynt Gwybodaeth Symudedd yn Ffrainc, mae yna hefyd rwydwaith ehangach ohonynt a all eich helpu mewn gwledydd eraill. Mae Arts Admin hefyd wedi creu canllaw defnyddiol ar gyfer parhau i deithio yn yr UE fel artist.
C: Ydy gofynion ETIAS ac EES yn berthnasol i bob unigolyn dan 18 oed?
A: Ydyn. Mae'n rhaid i bob unigolyn, gan gynnwys plant dan 18 oed, gydymffurfio â rheolau ETIAS ac EES. Ond mae'r rhai dan 18 oed (a thros 70) wedi'u heithrio rhag talu ffi ymgeisio ETIAS.
Ar gyfer EES, nid yw'n ofynnol i blant dan 12 oed gael sganio olion eu bysedd.
C: Sut bydd EES yn gweithio i bobl sydd wedi goraros yn Ardal Schengen ond sydd wrthi'n gwneud cais am drwydded breswylio ac sydd eisiau gadael cyn i'r cais gael ei gymeradwyo?
A: Os ydych wedi goraros yn Ardal Schengen ond eich bod wrthi'n gwneud cais am drwydded breswylio mewn gwlad benodol yn Schengen, gall y sefyllfa fod yn gymhleth dan EES.
-
Ymadael cyn i'r drwydded breswylio gael ei chymeradwyo: Os yw eich cais am drwydded breswylio yn dal i fod yn yr arfaeth, gallai ymadael ag Ardal Schengen cyn cael cymeradwyaeth eich fflagio yn EES fel gorarhoswr a allai arwain at gymhlethdodau wrth geisio dod i mewn eto neu wrth deithio yn y dyfodol. Mae'r system wedi'i chynllunio i gadw trac ar eich dod i mewn a’ch mynd allan yn awtomatig a'u cymharu â'r cyfnod aros a ganiateir dan y rheol 90/180 diwrnod. Hyd yn oed os ydych yn y broses o newid eich arhosiad drwy drwydded breswylio, bydd y goraros yn dal i gael ei gofnodi
-
Mynd i mewn eto i Ardal Schengen: Yn ddelfrydol, dylech fynd i mewn eto i’r Ardal Schengen drwy'r wlad lle mae eich cais am drwydded breswylio yn cael ei brosesu. Bydd gan awdurdodau ffiniau yn y wlad felly gofnod o'ch cais sy’n parhau a gallwch osgoi cosbau neu gymhlethdodau gan wledydd eraill Schengen. Ond nid oes unrhyw warant, gan fod pob gwlad yn rhoi’r rheoliadau cenedlaethol ar waith yn wahanol
-
Ymgynghori ag awdurdodau cenedlaethol: Mae'n well gwirio gyda'r awdurdodau mewnfudo yn y wlad lle mae eich cais am drwydded breswylio yn cael ei brosesu. Efallai y bydd rhai gwledydd yn cyhoeddi dogfennaeth neu gyngor dros dro i'ch galluogi i ymadael a dod yn ôl heb wynebu problemau goraros gan ddibynnu ar eu rheoliadau cenedlaethol
C: Gan fod ETIAS yn para am 3 blynedd, ydy'n bosibl gwneud cais heb gynlluniau teithio cadarn yn y dyfodol, dim ond i sicrhau ei fod ar waith? Neu oes angen cadarnhau'r dyddiad teithio/hedfan/trên cyntaf er mwyn gwneud cais?
A: Ydy. Mae’n bosibl gwneud cais am ETIAS hyd yn oed os nad oes gennych gynlluniau teithio penodol wedi'i trefnu. Mae ETIAS yn ddilys am 3 blynedd, felly gallwch wneud cais ymlaen llaw i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer teithio yn y dyfodol. Ond yn ystod y cais, bydd angen ichi nodi gwlad eich arhosiad cyntaf. Mae'r wybodaeth yn angenrheidiol i brosesu eich cais ond nid yw'n cyfyngu ar eich cynlluniau wedyn. Ar ôl ei gymeradwyo, gallwch deithio i unrhyw un o'r 30 gwlad yn Ewrop sy'n gofyn am ETIAS, hyd yn oed os yw'ch cynlluniau teithio yn newid ar ôl gwneud cais.
Dyma'r wybodaeth y bydd angen ichi ei darparu wrth wneud cais am ETIAS:
-
Manylion personol: enw, dyddiad a man geni, rhyw, cenedligrwydd, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn
-
Manylion y teulu: enwau cyntaf eich rhieni
-
Manylion y ddogfen deithio: pasbort neu ddogfen deithio arall
-
Addysg a swydd: lefel eich addysg a'ch swydd bresennol
-
Y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi gyntaf (hyd yn oed os yw'ch cynlluniau'n newid yn nes ymlaen)
-
Gwybodaeth gefndirol: euogfarnau troseddol yn y gorffennol, teithio blaenorol i barthau rhyfel neu wrthdaro, ac unrhyw benderfyniadau diweddar am ddychwelyd
-
Cysylltiadau teuluol â dinasyddion neu breswylwyr yr UE: os yw'n berthnasol, bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth bersonol am yr aelod o'r teulu a nodi beth yw’r berthynas
Os yw rhywun yn gwneud cais ar eich rhan, fel aelod o'r teulu neu asiant, bydd angen iddo ddarparu ei enw llawn, ei fanylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth berthnasol am sefydliad neu gwmni, yn ogystal â chadarnhau ei berthynas â chi. Bydd angen i'r ddau ohonoch hefyd lofnodi datganiad cynrychiolaeth.
C: Oes rhaid inni ymgeisio i bob gwlad rydym yn teithio drwyddi?
A: Mae ETIAS ac EES yn systemau canolog sy'n cwmpasu holl wledydd Ardal Schengen. Mae un cais ETIAS yn ddilys ar gyfer teithio i unrhyw un o'r gwledydd sy'n gofyn amdano a bydd EES yn cadw trac ar eich mynd i mewn a’ch ymadael ar draws holl wledydd Schengen. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith y bydd angen ichi wneud cais am ETIAS a byddwch yn gallu teithio drwy holl wledydd Schengen tra bod yr awdurdodiad yn ddilys.
C: Ai’r wlad gyntaf ichi fynd iddi a fydd yn cymeradwyo eich cais ETIAS?
A: At ddibenion y cais bydd yn broses ganolog, er y bydd aelod-wladwriaethau unigol yn rhan o'r broses weinyddol.
Mae proses gymeradwyo ETIAS wedi'i chanoli a'i rheoli gan system ganolog, nid gan y wlad rydych yn bwriadu mynd iddi’n gyntaf. Er bod aelod-wladwriaethau unigol Schengen yn cymryd rhan mewn gwiriadau gweinyddol, mae eich ETIAS yn ddilys ar gyfer mynd i unrhyw wlad Schengen ar ôl ei gymeradwyo, ni waeth ble yr ewch yn gyntaf.
C: Beth os nad yw aelod o'r grŵp yn defnyddio ffôn clyfar nac apiau ffôn?
A: Ni fydd angen ap neu fynediad digidol arnoch ar y ffin, gan y bydd eich awdurdodiad ETIAS yn cael ei gysylltu'n awtomatig â'ch pasbort. Os hoffech wirio manylion am eich arhosiad yn ardal Schengen, fel y rheol 90/180 diwrnod, gallwch wneud hynny drwy borwr ar y rhyngrwyd. Gallwch gyflwyno cais ETIAS ar-lein drwy'r wefan neu'r ap swyddogol, ac unwaith y caiff ei gymeradwyo, anfonir yr awdurdodiad atoch drwy e-bost, heb fod angen dogfennau nac ap ar y ffin.
C: All rhywun arall wneud cais am ETIAS ar fy rhan?
A: Gall. Gall rhywun arall, fel aelod o'r teulu, asiant neu gynrychiolydd, wneud cais am ETIAS ar eich rhan. Bydd angen eich gwybodaeth arno a gall gyflwyno'r cais drwy wefan swyddogol ETIAS neu’r ap symudol.
Mae'n rhaid ichi a'r person sy'n gwneud cais lofnodi datganiad cynrychiolaeth sy'n ei awdurdodi i weithredu ar eich rhan. Dylid cadw'r ddogfen wedi'i llofnodi fel prawf o'ch awdurdodiad. Mae angen datganiad ar wahân ar bob teithiwr.
Yn ogystal â'ch manylion, bydd angen i'r person sy'n gwneud cais ar eich rhan ddarparu ei enw llawn, ei fanylion cyswllt, gwybodaeth berthnasol am unrhyw sefydliad neu gwmni, yn ogystal â'i berthynas â chi. Mae'n bwysig bod yr e-bost a ddefnyddir yn y cais yn un y gallwch ei gyrraedd yn hawdd gan y bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl gyfathrebu am eich statws ETIAS.