Mae’r holl wybodaeth yn y recordiad isod yn gywir ar adeg y recordio (2 Ebrill 2025) 

  

Yn ystod ein Bore Coffi ym mis Ebrill ymunodd Matthew Covey a Mars Dietz o Tamizdat â ni i drafod teithio yn America. Mae Tamizdat yn sefydliad dielw sy’n hwyluso ac yn eiriol dros symudedd a chyfnewid diwylliannol rhyngwladol ac mae’n un o nifer o Bwyntiau Gwybodaeth Symudedd.  

Mae’r adnodd yn ddefnyddiol i unrhyw artistiaid a sefydliadau yn y celfyddydau perfformio sy’n trefnu taith o amgylch America ond sydd efallai a phryderon o ystyried nifer y newidiadau gweinyddol i fewnfudo a rheolaeth ffiniau sy’n effeithio ar ymwelwyr ag America, fel sydd wedi’i amlygu yn y cyfryngau.  

Ni ddylid ystyried yr adnodd hwn fel cyngor mewnfudo, ond yn hytrach yn sgwrs ddefnyddiol a allai helpu unrhyw gerddorion, artistiaid a sefydliadau yn y celfyddydau perfformio sy’n cynllunio taith i America. Mae’n ymdrin â rhywfaint o’r wybodaeth fewnfudo gan gynnwys mathau o fisa a’r hinsawdd bresennol a’r effaith ar artistiaid gan gynnwys ystyried unrhyw reoli risg.  

Mae’n ddefnyddiol gwylio’r recordiad yn ei gyfanrwydd, ond mae’r rhestr o gwestiynau a ofynnwyd trwy gydol y sesiwn awr o hyd gan fynychwyr y sgwrs, ynghyd â’r amser a ofynnwyd bob cwestiwn i’w weld isod. Gallwch ddod o hyd i'r cwestiynau yma.

Mae Tamizdat wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin byw sy’n cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd fel adnodd gwych i wirio ar gyfer unrhyw artist sydd â chynlluniau i ymweld ag America.  

Mae Tamizdat hefyd yn gweithredu llinell gymorth cyffredinol pro bono, TamizdatAVAIL y gall artistiaid gael mynediad iddo.  

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer diweddariadau e-bost Tamizdat yma.