Mae PEARLE yn cynrychioli dros 10,000 o reolwyr theatrau, lleoliadau cyngerdd, cwmnïau cynhyrchu theatr, cerddorfeydd, operâu, cwmnïau bale a dawns, gwyliau, hyrwyddwyr, a sefydliadau proffesiynol eraill ym maes y celfyddydau perfformio yn Ewrop. Mae gan y sefydliad wybodaeth helaeth am bolisïau’r UE sy’n effeithio ar sut y bydd lleoliadau perfformio yn gweithredu o ddydd i ddydd. Mae ganddo hefyd lyfrgell o gyhoeddiadau defnyddiol gan gynnwys ‘The Ultimate Cookbook for Cultural Managers’, sy’n rhoi gwybodaeth fanwl am drethu artistiaid mewn cyd-destun rhyngwladol, ac mae’n ganllaw ymarferol a fydd yn eich helpu i ddeall trethi rhyngwladol ac osgoi camgymeriadau.

Mae’r adnodd ar gyfer artistiaid o’r UE; serch hynny, mae hefyd yn esbonio’r rheolau cyffredinol ym maes trethi wrth weithio yn rhyngwladol.