Mae Swyddfa Gartref y DU yn cyflwyno proses awdurdodi teithio o'r enw Awdurdodi Teithio yn Electronig ar gyfer ymwelwyr ledled y byd sy'n dod i'r DU. 

Mae Awdurdodi Teithio yn Electronig yn ganiatâd digidol i deithio a bydd yn cael ei gyflwyno erbyn 2025. Bydd y cynllun yn berthnasol i'r rhai sy'n dod i'r DU ac nad oes angen fisa arnynt ar gyfer arosiadau byr, gan gynnwys y rhai sy'n ymweld o Ewrop. Bydd ffi wrth ymgeisio am Awdurdodi Teithio yn Electronig yn debyg i gynlluniau’r Unol Daleithiau ac Awstralia, gyda'r swm i'w gadarnhau. 

Bydd y broses o gyflwyno’r Awdurdodi Teithio yn Electronig yn dechrau’n ddiweddarach yn 2023, a bydd yn berthnasol i bobl o’r gwledydd canlynol o'r dyddiadau canlynol:

Cenedligrwydd  Gall wneud cais am Awdurdodi Teithio yn Electronig o’r dyddiad:  Bydd angen Awdurdodi Teithio yn Electronig o’r dyddiad: 
Catar 25 Hydref 2023 15 Tachwedd 2023

Saudi Arabia

Oman

Barain

Cuwait

Emiradau Arabaidd Unedig 

Iorddonen 

1 Chwefror 2024 22 Chwefror 2024

Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i wledydd eraill yn ddiweddarach. Am y wybodaeth swyddogol ddiweddaraf, ewch i wefan Llywodraeth y DU yma.

Gwyliwch fideo Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU isod i gael gwybod rhagor am:

  • Pwy sydd angen Awdurdodi Teithio yn Electronig
  • Caniatâd teithio amgen
  • Dilysrwydd Awdurdodi Teithio yn Electronig
  • Prawf o Awdurdodi Teithio yn Electronig
  • Dod i mewn i'r DU 
     

Cwestiynau Cyffredin
Gwybodaeth gan Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU

  1. A fydd angen Awdurdodi Teithio yn Electronig ar ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir?

    Bydd, bydd yn ofynnol i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir (ac eithrio dinasyddion Iwerddon) gael Awdurdodi Teithio yn Electronig cyn teithio i'r DU. Bydd Llywodraeth y DU yn darparu gwybodaeth ynghylch pryd y bydd angen Awdurdodi Teithio yn Electronig ar ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir maes o law. Gweler rhagor o wybodaeth am Awdurdodi Teithio yn Electronig a ffin Iwerddon-Gogledd Iwerddon yng Nghwestiwn Cyffredin 8. 

     
  2. Sut y bydd pobl yn gwybod a oes arnynt angen fisa yn hytrach nag Awdurododi Teithio yn Electronig? 

    Os yw unigolyn yn bwriadu ymweld â'r DU am fwy na chwe mis, bydd angen iddo gael fisa perthnasol. Efallai y bydd angen fisa arno hefyd am arhosiad sy’n parhau llai na chwe mis at ddibenion heblaw ymweld, teithio drwy’r wlad a rhai ymweliadau busnes. Gall unigolion wirio a oes arno angen fisa drwy ddefnyddio'r offeryn gwirio fisa ar GOV.UK

     
  3. Beth fydd yn digwydd os gwrthodir Awdurdodi Teithio yn Electronig i rywun? 

    Os gwrthodir cais Awdurdodi Teithio yn Electronig i unigolyn, bydd angen iddo wneud cais am fisa os yw o hyd eisiau cael caniatâd i ddod i'r DU.

     
  4. Pryd y dylai rhywun wneud cais am Awdurdodi Teithio yn Electronig? 

    Dylai unigolion wneud cais am Awdurdodi Teithio yn Electronig cyn trefnu eu taith.

     
  5. A all unigolion apelio’r penderfyniad i wrthod Awdurdodi Teithio yn Electronig? 

    Na allant. Os gwrthodir Awdurdodi Teithio yn Electronig i unigolion ac os ydynt o hyd yn dymuno cael caniatâd i deithio i'r DU, gallant wneud cais am fisa.

     
  6. A oes angen Dwdurdodi Teithio yn Electronig ar wahân ar blant? 

    Oes. Mae'n rhaid i blant gael eu Hawdurdodi Teithio yn Electronig eu hunain.

     
  7. Faint fydd Awdurdodi Teithio yn Electronig yn ei gostio? 

    Bydd y gost yn rhesymol ac yn debyg i gynlluniau tebyg sydd ar waith megis yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Bydd Llywodraeth y DU yn cadarnhau union gost Awdurdodi Teithio yn Electronig yn fuan.

     
  8. Sut y bydd cynllun Awdurdodi Teithio yn Electronig yn gweithio o ran ffin Iwerddon-Gogledd Iwerddon?

    Fel sy'n digwydd nawr, ni fydd yn DU yn gweithredu rheolaethau mewnfudo arferol ar deithiau yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac ni fydd dim rheolaethau mewnfudo o gwbl ar ffin tir Iwerddon-Gogledd Iwerddon.

    Bydd angen i bob unigolyn sy'n cyrraedd y DU, gan gynnwys y rhai sy'n croesi ffin y tir i Ogledd Iwerddon, ddilyn fframwaith mewnfudo'r DU, gan gynnwys yr angen i gael Awdurdodi Teithio yn Electronig os oes ei angen.

    Er mwyn elwa ar yr eithriad i Awdurdodi Teithio yn Electronig, bydd angen i bobl nad ydynt yn drigolion Iwerddon gyflwyno tystiolaeth ffisegol sy'n dangos eu bod yn preswylio'n gyfreithlon yn Iwerddon os bydd ei angen gan swyddog mewnfudo'r DU. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi arweiniad maes o law am y dystiolaeth dderbyniol.