Gallwch weld recordiad o'r sesiwn yma.

Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma.

 

Ein bore coffi nesaf yw:

9:30am GMT | 30 Ionawr 2024

Pwnc: Awdurdodiad Teithio Electronig

Ein cyfranwyr gwadd nesaf yw: Tîm Ymgysylltu Allanol, Ffiniau’r Dyfodol a System Mewnfudo, Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU

 

Ydych chi’n bwriadu ymweld â’r DU ar gyfer gwaith neu hamdden? A ydych chi’n ymwybodol o’r gofynion newydd sy’n dod i rym ar gyfer rhai ymwelwyr â’r DU?

Fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i gryfhau a digideiddio ffin y DU, mae llywodraeth y DU wedi lansio cynllun Awdurdodi Teithio Electronig (ETA).

Yn y sesiwn yma bydd swyddogion Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU yn ymuno â ni i roi trosolwg o’r cynllun, ar bwy y mae’n effeithio, sut y bydd yn gweithio, ac yna cyfle i ofyn cwestiynau.

Unwaith y bydd y cynllun ETA wedi’i roi ar waith yn llawn, bydd yn berthnasol i ymwelwyr â’r DU nad oes angen fisa arnynt ar gyfer arosiadau o lain a chwe mis, neu nad oes ganddynt statws mewnfudo dilys yn y DU cyn teithio. Bydd angen ETAs hefyd ar rai sy’n ceisio mynediad o dan y consesiwn gweithiwr creadigol Haen 5 cyn iddynt deithio i’r DU.

Mae cynllun ETA eisoes wedi agor i ddinasyddion Qatar, a all nawr gyflwyno cais, a bydd yn cael ei gyflwyno’n radio i holl ddinasyddion di-fisa sy’n weddill trwy gydol 2024, gyda manylion pellach i’w darparu maes o law.

Bydd y sesiwn yma’n ddefnyddiol i rai sydd heb unrhyw ymwybyddiaeth, neu ymwybyddiaeth gyfyngedig o’r cynllun ETA. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i artistiaid a sefydliadau sydd â chynlluniau ar y gweill yn y DU ac sydd am wirio a yw’r cynllun ETA yn debygol o gael effaith ar y cynlluniau hynny.

Mae’n bwysig bod ymwybyddiaeth o’r gofyniad newydd hwn yn cael ei gyfathrebu’n eang, ac mae croeso i bawb ddod i ddarganfod mwy.

Bydd cyfle i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych i swyddogion Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU am ETA a sut y gallai effeithio chi yn y dyfodol.

Os na allwch fynychu ein bore coffi gyda thim ETA, maent hefyd yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar-lein reolaidd sy'n rhad ac am ddim. Dilynwch y dolenni ar y dyddiadau isod i gofrestru ar gyfer un o'u sesiynau gwybodaeth. 

Dydd Iau 25ain o Ionawr 14:00-15:00

Dydd Mawrth 13eg o Chwefror 11:00-12:00

Dydd Iau 22ain o Chwefror 14:00-15:00

Dydd Mawrth 12fed o Fawrth 11:00-12:00

Dydd Iau 28ain o Fawrth 14:00-15:00

 

---

 

Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol.

 

Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT.

 

Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.

 

Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.