Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma

Ein bore coffi nesaf yw: 

2:00yp BST | 07 Hydref 2024 

Pwnc: 

System Awdurdodiad Teithio Electronig y DU 

Ein cyfranwyr gwadd nesaf yw: 

Tîm Ymgysylltu Allanol, Ffiniau’r Dyfodol a System Mewnfudo, Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU 

Ydych chi’n deall sut mae system Awdurdodiad Teithio Electronig (ETA) y DU yn gweithio a fel y bydd yn effeithio eich cynlluniau i ymweld â’r DU?  

Fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i gryfhau a digideiddio ffin y DU, mae llywodraeth y DU wedi lansio cynllun Awdurdodi Teithio Electronig (ETA) sydd nawr yn paratoi i lansio’r 2 ran olaf.  

Erbyn Ebrill 2025 bydd rhaid i unigolion o bob cenedl ble mae gofyn iddynt wneud cais am ETA’r DU gael un yn barod i deithio i'r DU. Mae’r rhestr o genhedloedd sy’n cael eu heffeithio gan ETA I'w gweld yma ac maent yn cynnwys ymwelwyr Ewropeaidd. Mae hwn yn newid sylweddol i lawer o deithwyr a oedd yn flaenorol wedi gallu croesi ffin y DU heb ryngweithio gyda’r Swyddfa Gartref cyn teithio.  

Yn y sesiwn yma bydd swyddogion Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU yn ymuno â ni i roi trosolwg o’r cynllun, ar bwy y mae’n effeithio, sut y bydd yn gweithio, ac yna cyfle i ofyn cwestiynau.  

Bydd system ETA yn berthnasol i ymwelwyr â’r DU nad oes angen fisa arnynt ar gyfer arosiadau o lain a chwe mis, neu nad oes ganddynt statws mewnfudo dilys yn y DU cyn teithio. Bydd angen ETAs hefyd ar rai sy’n ceisio mynediad o dan y consesiwn gweithiwr creadigol Haen 5 cyn iddynt deithio i’r DU.  

Mae can un cynllun ETA eisioed wedi agor i ddinasyddion o Bahrain, Kuwait, Oman, Qatar, Saudi Arabia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig. Bydd yr ail gam yn agor ar gyfer ceisiadau ar 27ain o Dachwedd 2024 i'w ddefnyddio o’r 8fed o Ionawr 2025. Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o wlefydd a gyflwynwyd i'r cynllun yn rhan o cam 2 yma. Bydd y trydydd cam, y cam olaf, yn agor ar gyfer ceisiadau o’r 5ed o Fawrth 2025 i'w ddefnyddio o’r 2il o Ebrill 2025, a gellir gweld rhestr lawn o’r gwladolion hynny yma

Bydd y sesiwn yma’n ddefnyddiol i'r rhai sydd heb ymwybyddiaeth neu sydd ag ymwybyddiaeth gyfyngedig o’r cynllun ETA neu sydd eisiau gwybod am gam olaf cyflwyno’r cynllun. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i artistiaid sydd â chynlluniau ar y gweill yn y DU ac sydd eisiau gwybod pryd y bydd angen ETA arnynt a sut i ymgeisio.   

Os na allwch fynychu ein bore coffi gyda thîm ETA peidiwch â phoeni gan y byddwn yn recordio’r sesiwn ac yn rhannu adnoddau ar ein gwefan. Mae tîm ETA hefyd yn cynnal sesiynau gwybodaeth ar-lein reolaidd sydd yn rhad ac am ddim i ymuno â nhw a gofyn cwestiynau. Dilynwch y dolenni ar y dyddiadau isod i gofrestru ar gyfer un o’u sesiynau gwybodaeth rad ac am ddim.  

 

Dydd Iau 26ain o Fedi 2024 07:00am – 08:00am BST 

Dydd Mawrth 1af o Hydref 2024 11:00am – 12:00pm BST 

Dydd Iau 10fed o Hydref 2024 14:00pm – 15:00pm BST 

Dydd Mawrth 15fed o Hydref 2024 17:00pm – 18:00pm BST 

Dydd Iau 24ain o Hydref 2024 07:00am – 08:00am BST 

Dydd Mawrth 5ed o Dachwedd 2024 11:00am – 12:00pm GMT 

Dydd Iau 14eg o Dachwedd 2024 14:00pm – 15:00pm GMT 

Dydd Mawrth 19eg o Dachwedd 2024 17:00pm – 18:00pm GMT 

Dydd Iau 28ain o Dachwedd 2024 07:00am – 08:00am GMT 

Dydd Mawrth 3ydd o Ragfyr 2024 11:00am – 12:00pm GMT 

Dydd Iau 12fed o Ragfyr 2024 14:00pm – 15:00pm GMT 

Dydd Mawrth 17eg o Ragfyr 2024 17:00pm – 18:00pm GMT 

  

--- 

  

Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol. 

Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT. 

Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol. 

Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.