Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma.
Ein bore coffi nesaf yw:
9:30yb amser y DU | 04 Chwefror 2025
Pwnc:
Dededdfwriaeth Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol (GPSR)
Ein cyfrannwr gwadd nesaf yw:
Andrea Collins – Rheolwr Gyfarwyddwr Global Trade Department
Ydych chi’n unigolyn neu sefydliad/busnes sy’n gwerthu cynnyrch i gwsmeriaid yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu Ogledd Iwerddon (GI)? A ydych chi wedi clywed am y ddeddfwriaeth Rheoliadau Diogelwch Cynnych Cyffredinol (GPSR) newydd yr UE? Ydych chi’n deall sut y bydd hyn yn berthnasol i chi a’ch busnes?
Os ydych chi’n unigolyn neu sefydliad/busnes sy’n gweithgynhyrchu neu’n gwerthu cynnyrch i gwsmeriaid yn yr UE neu GI, o 13 Rhagfyr 2024 mae’n rhaid i chi bellach gydymffurfio â deddfwriaeth GPSR yr UE. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau yma ar wefan Llywodraeth y DU.
Efallai eich bod yn poeni neu’n ddryslyd am y rheolau GPSR yn berthnasol i'ch ymarfer, neu sut y gallwch gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd i barhau i werthu eich gwaith, nwyddau a chynnyrch i'r UE a GI.
Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at artistiaid a sefydliadau celfyddydol a hoffai ddarganfod mwy am y ddeddfwriaeth a deall a yw’n effeithio arnynt a pha gamau ymarferol y bydd angen iddynt eu cymryd i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, bydd hefyd cyfle i ddod i holi cwestiynau am GPSR.
Yn ymuno â ni i roi trosolwg o ddeddfwriaeth GPSR bydd Andrea Collins – Rheolwr Gyfarwyddwr Global Trade Department. Mae gan Andrea dros 25 mlynedd o brofiad fel arbenigwr masnach ryngwladol, ac yn llysgennad angerddol i ficrofusnesau yn y DU. Lansiodd Global Trade Department fel ffordd o gefnogi busnesau bach a chodi proffil nwyddau a gwasanaethau’r DU dramor.
Bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau yn dilyn trosolwg byr, a gofynnwn yn garedig i chi nodi unrhyw gwestiynau sydd gennych yn rhan o’r ffurflen gofrestru neu eu danfon atom ar e-bost (infopoint@wai.org.uk) er mwyn i ni allu teilwra’r sesiwn cymaint â phosib i'ch anghenion.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio, a bydd adnoddau’n cael eu rhannu ar ein gwefan.
Digwyddiadau ac adnoddau eraill ar GPSR
Mae’r Adran Masnach a Busnes yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar y pwnc trwy ei Hacademi Allforio’r DU, gallwch gofrestru ar gyfer rhain yma.
Mae Crafts Council yn rhedeg sesiwn dan y teitl 'Understanding the EU's General Product Safety Regulations (GPSR)' dydd Mercher 12fed o Ionawr rhwng 19:00-20:00 a gallwch gofrestru am ddim yma.
Mae Musicians Union wedi cyhoeddi canllawiau ar GPSR sydd ar gael yma i'w haelodau.
---
Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol.
Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT.
Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.
Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.