Cofrestrwch ar gyfer y gweminar yma
Dyddiad: 11 Gorffennaf 2024
Amser: 04:00pm BST
Siaradwyr:
Rachel Down, Prif Gynhyrchydd WOMEX 24 (Manchester Music City / English Folk Expo)
Zelie Flach, Swyddog Ewropeaidd (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru / Gwybodfan Celf y DU)
Nicola Smyth, Uwch Reolwr, Rhyngwladol (Arts Council England / Gwybodfan Celf y DU)
Mynnwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn sicrhau mynediad llyfn i’r DU fel artist, siaradwr, fel rhan o ddirprwyaeth neu aelod o griw.
Bydd y gweminar yma'n cynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i unrhyw un sy’n mynychu WOMEX 24 ym Manceinion fel artist, siaradwr cynhadledd, rhan o ddirprwyaeth, arddangoswyr, cyflwynydd ffilm neu aelod o griw. Bydd yn canolbwyntio ar symud pobl, nid symud nwyddau.
WOMEX 24 yw rhifyn 30eg o’r Worldwide Music Expo, a gynhelir ym Manceinion rhwng 23-27 Hydref.
Bydd y swsiwn yma yn cynnwys:
- Gofynion mynediad y DU a phwy fydd angen fisa
- Gwybodaeth am ddod i’r DU fel Ymwelydd Arferol (standard visitor) a’r ddigfennaeth y bydd ei hangen arnoch
- Llythr Croeso a Llythyrau Gwhoddiad Fisa a ddarparwyd gan WOMEX
- Gwybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl ar ffin y DU
- Gwybodaeth am gynlluniau eraill yn y DU, cyn neu ar ôl WOMEX
- Adnoddau a sut i gysylltu
- Amser i ofyn cwestiynau
Rydym yn annog pawb i:
- Gyflwyno eu cwestiynau ar gyfer y siaradwyr cyn y weminar drwy’r ddolen gofrestru uchod
- Paratowch ar gyfer y gweminar trwy ddarllen y canllawiau fisa ar gyfer mynychwyr WOMEX
Os na allwch ddod i’r gweminar, bydd Brighter Sound yn rhannu recordiad er ei gwefan wedi’r diwgyddiad.
Mwy o wybodaeth
Cynhyrchir y gyfres ‘Get WOMEX Ready’ gan Brighter Sound fel rhan o raglan etifeddiaeth WOMEX 24.