Ar 31 Ionawr 2024, cyflwynodd y Llywodraeth newidiadau i’r Atodiad Ymwelwyr ac yn sgil hynny, cafodd y rheolau ynghylch Ymrwymiadau Taledig a Ganiateir (PPE) eu newid hefyd.

Roedd y newidiadau yn uno’r llwybr Ymwelwyr PPE â’r llwybr i Ymwelwyr Arferol, sy’n golygu nad oes angen fisa PPE penodol er mwyn cyflawni PPE yn y Deyrnas Unedig. O ganlyniad i’r newid hwn, ystyrir unigolion sy’n ymweld at ddibenion PPE yn ‘ymwelwyr arferol’ a byddan nhw’n cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig am 6 mis.

Serch hynny, nid yw’r rheolau wedi newid o ran pa bryd y mae’n rhaid cyflawni PPE. Mae’n rhaid o hyd i ymrwymiadau gael eu cwblhau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r ymwelydd ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

 

Mae rhagor o newidiadau i’r rheolau fel a ganlyn:

Rhaid i’r Ymgeisydd fod yn 18 oed neu’n hŷn wrth ddod i mewn ir Deyrnas Unedig.

O’r blaen, roedd yn rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed ar y diwrnod pan fydden nhw’n gwneud y cais, ond bellach, dim ond ar y dyddiad pan fyddan nhw’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig y mae angen iddyn nhw fod yn 18. Mae hyn yn golygu y gall pobl 17 oed wneud cais am y fisa Ymwelwyr Arferol os byddan nhw’n troi’n 18 oed wrth ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

 

Mae Atodiad Ymwelwyr y Rheolau Mewnfudo yn esbonio’r canlynol:

Rhaid i’r Ymgeisydd fwriadu cyflawni un (neu ragor) o’r Ymrwymiadau Taledig a Ganiateir, a rhaid i’r rhain fod:

  1. Wedi’u trefnu cyn i’r ymgeisydd deithio i’r Deyrnas Unedig
  2. Wedi’u datgan fel rhan o’r cais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig
  3. Wedi’u trefnu drwy wahoddiad ffurfiol gyda thystiolaeth o hynny
  4. Yn ymwneud â maes arbenigedd a galwedigaeth yr ymgeisydd dramor

Mae gofyniad (d) yn datgan bod yn rhaid i’r digwyddiad neu’r ymrwymiad ymwneud yn uniongyrchol â’ch proffesiwn amser llawn. Er enghraifft, rhaid i chi allu dangos eich bod chi’n artist, yn ddiddanwr neu’n gerddor profiadol yn eich gwlad gartref os ydych chi’n dymuno perfformio yn y Deyrnas Unedig.

Dyma lle mae’r llwybr bellach yn wahanol i wladolion fisa (y rheini y mae angen fisa arnyn nhw i ddod i’r Deyrnas Unedig) a gwladolion di-fisa (y rheini nad oes angen fisa arnyn nhw i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig). Mae modd gweld y gofynion fisa hyn ar gyfer eich gwlad benodol chi ar Restr Genedlaethol Fisâu GOV UK.

Gwladolion Fisa

Os ydych chi’n wladolyn fisa, rhaid i chi wneud cais am fisa ymwelydd arferol i’r Deyrnas Unedig, gan nad oes llwybr penodol ar gael i ymwelwyr PPE bellach. Fel rhan o’r cais hwn, rhaid i chi ddatgan eich bod yn dymuno cyflawni PPE yn y Deyrnas Unedig a pha fath o PPE y byddwch chi’n ei gyflawni. Rhaid i chi roi tystiolaeth i’r Swyddfa Gartref o bwyntiau (a) – (d) a ddisgrifir uchod.

Gwladolion Di-fisa

I wladolion di-fisa, nid oes angen i chi wneud cais penodol am fisa i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig. Serch hynny, mae’r rheolau uchod yn golygu bod angen cario a gallu dangos, naill ai’n gorfforol neu’n electronig, ddogfennau perthnasol sy’n profi bod y pwyntiau (a)-(d) uchod yn wir.

Fel yr esbonnir isod, mae’r canllawiau’n dal i’w gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n gymwys i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig drwy e-gât gyflwyno’u hunain i un o swyddogion Llu’r Ffiniau os ydyn nhw’n ceisio dod i mewn at ddibenion PPE.

Mae’r Ymrwymiadau Taledig a Ganiateir yr un fath â’r rhai a gadarnhawyd yn flaenorol yn Atodiad Ymwelwyr y Rheolau Mewnfudo, ond bod un ychwanegiad, sef ‘siaradwr sy’n dod i’r Deyrnas Unedig i roi un sgwrs neu araith neu gyfres o fer o sgyrsiau ac areithiau, ac sydd wedi’i wahodd i gynhadledd neu ddigwyddiad arall’. Dyma newid y bu cryn ddisgwyl amdano, ac mae’n galluogi pobl i gael taliad o ffynhonnell yn y Deyrnas Unedig yn gyfnewid am sgyrsiau neu areithiau mewn cynhadledd, gŵyl neu ddigwyddiad penodol.

I’ch atgoffa, mae’r rhestr gyflawn o Ymrwymiadau Taledig a Ganiateir bellach fel a ganlyn:

  • academyddion hynod o gymwys, sy’n arholi myfyrwyr neu’n cymryd rhan mewn paneli dethol;
  • arbenigwyr sy’n rhoi darlithoedd yn eu meysydd pwnc;
  • arholwyr peilotiaid yn asesu peilotiaid yn y Deyrnas Unedig;
  • cyfreithwyr cymwys yn eirioli mewn achosion cyfreithiol, yn dilyn gwahoddiad gan gleient;
  • artistiaid, diddanwyr a cherddorion proffesiynol sydd wedi’u gwahodd gan sefydliad creadigol, asiant neu ddarlledwr yn y Deyrnas Unedig;
  • pobl proffesiynol sy’n gwneud chwaraeon ac sydd wedi’u gwahodd gan sefydliad chwaraeon, asiant neu ddarlledwr yn y Deyrnas Unedig
  • a’r ychwanegiad newydd – siaradwyr sy’n dod i’r Deyrnas Unedig i roi un sgwrs neu araith neu gyfres fer o sgyrsiau ac areithiau.

I gael mwy o wybodaeth benodol am sut y mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o bob un o’r ymrwymiadau hyn, mae’n bosibl y bydd tudalen PPE newydd GOV UK neu’r canllawiau cyffredinol am fisâu ymwelwyr yn ddefnyddiol.

 

Dod i mewn i’r Deyrnas Unedig

Mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y gall ymelwyr sy’n gymwys i ddefnyddio’r e-gatiau fel ymwelydd arferol wneud hynny hefyd at ddibenion gweithgarwch PPE, gyda chanllawiau ar-lein i’w diweddaru’n fuan.

 

Am nawr, rhaid i un o swyddogion Llu’r Ffiniau stampio eich pasbort, a gall ofyn cwestiynau i chi am y PPE y byddwch chi’n ei gyflawni. Heb stamp, dywedir na fyddwch chi’n cael cyflawni’r gweithgareddau y daethoch chi i’r Deyrnas Unedig i’w gwneud.