Mae Gwybodfan Celf y DU ac On the Move yn cyflwyno’r sesiwn weminar hon am symudedd artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol dros dro, yn y tymor byr, o’r DU i’r UE.

Mae’r weminar hon ar gyfer sefydliadau’r sector, cwmnïau celfyddydol a gweithwyr diwylliannol proffesiynol sydd wedi’u lleoli yn y DU, a’r nod yw rhoi gwybodaeth gyffredinol am y pethau sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE a sut y gall gweithwyr proffesiynol baratoi i weithio ar draws ffiniau yn y dyfodol agos.

Recordiwyd y weminar hon ar 22 Mawrth 2021 ac roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg y recordio.