Mae’r weminar hon ar gyfer sefydliadau’r sector, cwmnïau celfyddydol a gweithwyr diwylliannol proffesiynol sydd wedi’u lleoli yn y DU, a’r nod yw rhoi gwybodaeth gyffredinol am y pethau sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE a sut y gall gweithwyr proffesiynol baratoi i weithio dros y ffin yn Ffrainc. Mae’r sesiwn yn cael ai harwain gan Anaïs Lukacs o MobiCulture; ac yn cael ei hwyluso gan Marie Fol o On the Move.
Recordiwyd y weminar hon ar 29 Ebrill 2021 ac roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg y recordio.