Ydych chi’n Ŵyl Di-drwydded neu â diddordeb gwneud cais am statws Gŵyl Di-drwydded?
Gall Gwyliau Di-drwydded wahodd diddanwyr neu artistiaid rhyngwladol i gymryd rhan yn eu gwyliau heb fod angen rhoi tystysgrif nawdd o dan y system seiliedig ar bwyntiau. Gellir talu’r perfformwyr yn eithriadol am gymryd rhan yn yr ŵyl o dan y llwybr Ymwelwyr Arferol.
Mae’r gofynion i gael eich cynnwys ar restr o wyliau didrwydded fel a ganlyn;
·wedi’i sefydlu ers o leiaf 3 blynedd
·wedi cael cynulleidfa o leiaf 15,000 ar gyfer pob un o’r 3 gŵyl ddiwethaf
·cynulleidfa ddisgwyliedig o leiaf 15,000 drwy gydol y digwyddiadau sydd i ddod
·o leiaf 15 o berfformwyr nad ydyn yn Brydeinig neu Wyddelig sydd wedi perfformio ym mhob un o’r 3 gŵyl ddiwethaf
·o leiaf 15 o berfformiwyd nad ydynt yn Brydeinig neu Wyddelig sydd wedi’u gwahodd ar gyfer 2023 i 2024
Dyma gwestiynau ac atebion o’n bore coffi ar-lein a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023 gyda’r Tîm Ymweliadau, Fisa a Pholisi Masnach Ryngwladol, Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU. Mae’r Tîm Ymweliadau, Fisa a Pholisi Masnach Ryngwladol yn arwain ar rheolau mewnfudo ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys y rhestr Gwyliau Di-Drwydded, ac agweddau cysylltiedig â mewnfudo ar fargeinion masnach y DU â gwledydd eraill.
Cwestiynau ac Atebion
C. A yw gwyliau sy’n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn yn gymwys, a sut y dylen nhw roi tystiolaeth o niferoedd o dan y meini prawf? Er enghraifft, os bydd yr ŵyl yn cael dwywaith yn fwy o gynulleidfa na’r hyn sy’n ofynnol yn y meini prawf, ond bod hynny bob yn ail flwyddyn.
A. Ydyn, mae gwyliau sy’n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn yn gymwys, ac mae eisoes enghreifftiau ar y rhestr o Wyliau Di-drwydded. Os nad ydych chi’n sicr sut i roi tystiolaeth o’r niferoedd o dan y meini prawf, anfonwch e-bost at dîm gweinyddol Gwyliau Di-drwydded gyda’ch ymholiad.
C. Mae ein gŵyl i fod i’w chynnal ym mis Ebrill/Mai/Mehefin 2024. Pryd fyddwn ni’n cael clywed a ydyn ni wedi cael ein cynnwys yn llwyddiannus ar y rhestr o Wyliau Di-drwydded?
A. Os yw eich gŵyl i’w chynnal ddechrau mis Ebrill, efallai y bydd angen i chi wneud trefniadau gwahanol ar gyfer artistiaid sy’n ymweld (e.e. llwybr tystysgrifau nawdd neu lwybr Ymrwymiad Taledig a Ganiateir (PPE)).
C. Fe wnaeth Covid darfu ar ein gŵyl ac adlewyrchir hyn yn y niferoedd. Sut mae modd rhoi tystiolaeth o’r niferoedd o dan y meini prawf?
A. Os tarfwyd ar bethau yn sgil Covid, mae modd ystyried hynny. Cysylltwch â’r tîm Gwyliau Di-drwydded i drafod hyn.
C. Mae’r meini prawf yn gofyn am gynulleidfa o 15,000 fan lleiaf am y 3 blynedd ddiwethaf ac yn y digwyddiad sydd i ddod. A oes yn rhaid i’r rhain fod yn aelodau o gynulleidfaoedd sydd wedi talu am docyn i’r digwyddiad?
A. Nag oes, nid oes yn rhaid i gynulleidfaoedd fod wedi talu am docynnau i ddigwyddiadau gwyliau. Cysylltwch â’r tîm Gwyliau Di-drwydded os nad ydych chi’n sicr sut i adlewyrchu maint eich cynulleidfaoedd.
C. O dan y meini prawf, rhaid i’r ŵyl fod ag o leiaf 15 o berfformwyr nad ydyn nhw o Brydain nac Iwerddon ac sydd wedi perfformio ym mhob un o’r 3 gŵyl ddiwethaf; a rhaid iddyn nhw fod wedi’u gwahodd yn 24/25. A yw hyn yn cynnwys yr holl unigolion mewn un grŵp? Ac a yw’n cynnwys timau creadigol ynteu’r perfformwyr yn unig?
A. Mae hyn yn cynnwys unigolion mewn grŵp ond nid yw’n cynnwys y staff cefnogi personol a thechnegol, na’r tîm cynhyrchu, gan fod modd iddyn nhw ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan y trefniadau safonol ar wahân i ymwelwyr.
C. Sut mae cyfrif cwmni sy’n perfformio yn yr ŵyl gydag artistiaid o wledydd cymysg, ond fod y cwmni wedi’i leoli yn Nulyn?
A. Mae’r maen prawf hwn yn ymwneud â chenedligrwydd yr artistiaid unigol sy’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig i berfformio yn yr ŵyl, yn hytrach nag â lleoliad y cwmni. Yn yr achos hwn, byddai angen i chi gynnwys nifer y perfformwyr nad ydyn nhw o Brydain nac Iwerddon.
C. Mae angen tystiolaeth gan yr heddlu lleol neu’r awdurdod trwyddedu ynghylch y digwyddiad diwylliannol neu’r ŵyl, i gyd-fynd â chais. Pa fath o dystiolaeth y byddai ei hangen arnoch chi gan ŵyl sy’n gweithio ar draws nifer o safleoedd a lleoliadau, ac a allai newid ym mhob gŵyl?
A. Gofynnir am hyn fel rhan o’r dystiolaeth er mwyn dangos bod yr ŵyl yn ddigwyddiad go iawn, a bod yr holl gamau diogelu y byddech chi’n eu disgwyl wedi’u cymryd. Os nad ydych chi’n sicr beth sydd ei angen arnoch chi, anfonwch e-bost i fewnflwch y tîm Gwyliau Di-drwydded mewn da bryd cyn y dyddiad cau.
C. I wladolion sydd â fisa ac sy’n perfformio mewn gŵyl ddi-drwydded, a ddylai’r ŵyl roi Tystysgrif Nawdd iddyn nhw ar gyfer eu cais am fisa, ynteu lythyr gwahoddiad sy’n cadarnhau’r statws di-drwydded?
A. Mae’r rhain yn ddwy ffordd wahanol o ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, ac mae’r prosesau a’r gofynion yn wahanol ac yn galluogi’r artistiaid i fod yn y Deyrnas Unedig am gyfnodau gwahanol o amser. Nid yw’r naill ffordd na’r llall yn anghywir. Boed artistiaid yn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig drwy’r llwybr Gwyliau Di-drwydded neu’r llwybr nawdd, dylech sicrhau bod y llwybr yn darparu ar gyfer gweithgarwch yr artist drwy gydol yr arhosiad.
C. A oes modd cyfuno dod i mewn i’r Deyrnas Unedig ar gyfer Gŵyl Ddi-drwydded a thrwy lwybr Ymrwymiad Taledig a Ganiateir os oes gan rywun nifer o weithgareddau yn y Deyrnas Unedig?
A. O dan y rheolau presennol, nid oes modd ‘newid’ rhwng y rhain. Byddai’n rhaid i chi adael y Deyrnas Unedig a dod yn ôl i mewn gan ddilyn y rheolau sy’n berthnasol. Ar 31 Ionawr 2024 bydd y rheolau mewnfudo sy’n berthnasol i Ymrwymiad Taledig a Ganiateir (PPE) yn newid a bydd rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig (gwybodaeth am ymweliadau safonol/am ymweliadau PPE/am fisâu'r Deyrnas Unedig)
C. Rydyn ni eisoes ar restr y Gwyliau Di-drwydded, ac ar wahân i’r ŵyl, mae gennyn ni raglen dymhorol gyda gweithgareddau gydol y flwyddyn. A all artistiaid ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan restr y Gwyliau Di-drwydded ar gyfer y gweithgarwch hwn?
A. O bosibl, os bydd digwyddiad sydd wedi ennill ei blwyf yn cynnal digwyddiadau penodol am gyfnod penodol o amser. Ond yn yr amgylchiadau penodol iawn hyn, dylai’r ŵyl gysylltu â’r tîm Gwyliau Di-drwydded i gadarnhau’n uniongyrchol.
C. A yw meini prawf y Gwyliau Di-drwydded yn cael eu hadolygu?
A. Cafodd y rhain eu hadolygu ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn adlewyrchu diwedd y rhyddid i symud. Nid oes rhagor o adolygiadau wedi’u cynllunio, ond gallai hyn newid.
C. Os ydych chi wedi’ch cynnwys ar restr y Gwyliau Di-drwydded, a oes angen i chi wneud cais eto bob blwyddyn?
A. Na, nid oes angen i chi wneud cais eto. Os bydd yr ŵyl yn dod i ben, bydd yn cael ei thynnu oddi ar y rhestr.
C. A oes yn rhaid talu i wneud cais?
A. Nag oes, mae modd gwneud cais yn rhad ac am ddim.
C. Os bydd gwybodaeth ar goll mewn cais, neu os bydd hi’n ymddangos na chaiff gŵyl ymuno â rhestr y Gwyliau Di-drwydded, a fyddwch chi’n cysylltu â’r ymgeisydd i ofyn am ragor o wybodaeth/i gael sgwrs?
A. Byddwn, byddwn ni’n cysylltu â’r ymgeisydd dros e-bost.
C. Hoffwn i wneud cais i gynnwys fy ngŵyl ar y rhestr, ond dydw i ddim yn sicr a oes gen i’r holl ddogfennau / a ydw i’n cyflawni’r holl feini prawf. Beth ddylwn i ei wneud?
A. Cysylltwch â’r tîm Gwyliau Di-drwydded cyn gynted â phosibl cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2024. Mae hyblygrwydd, a chanllaw yn unig yw’r rhestr o ddogfennau.