O 13 Rhagfyr 2024 bydd angen i chi gydymffurfio â deddfwriaeth GPSR yr UE – eglurir yma. Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys gofynion newydd ar gynhyrchion defnyddwyr a werthir ym marchnad yr UE.   

Bydd hyn yn effeithio ar fusnesau yn y DU sy’n gwerthu gwaith, cynhyrchion a nwyddau i gwsmeriaid yn yr UE, ac yn hollbwysig mae’r ddeddfwriaeth hon hefyd yn cwmpasu gwerthu i Ogledd Iwerddon. Mae gwybodaeth llywodraeth y DU ar gael yma sy’n rhoi arweiniad manwl.   

Mae rheolau’r UE hefyd yn golygu bod yn rhaid i unrhyw artistiaid a sefydliadau celfyddydol sy’n gweithgynhyrchu ac yn gwerthu nwyddau i ddefnyddwyr yn yr UE a GI weithio gyda gweithredwr economaidd cyfrifol sydd wedi’i leoli yn GI neu’r UE.   

Os ydych chi’n allforio i'r UE mae’r Adran Masnach a Busnes yn cynnal gweminarau fel rhan o’r academi allforio ar y newidiadau y gallwch chi gofrestru ar eu cyfer, a sicrhau eich bod yn paratoi ar gyfer y newidiadau hyn.   

I gael gwybodaeth am sut mae’r rheolau newydd hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon ymunwch ag un o’r sesiynau galw heibio rhithiol hyn ar Microsoft Teams sydd hefyd yn cael eu cynnal gan yr adran Masnach a Busnes. Nid oes angen i chi gofrestru, dilynwch y dolennu ar y dyddiadau isod: 

Rydym am godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau hyn, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gael mwy o eglurder ynghylch yr effeithiau penodol ar sector y celfyddydau. Diweddariadau i ddilyn yn y Flwyddyn Newydd.