Mae 26 o wledydd yn ardal Schengen, gan gynnwys rhai o wledydd yr UE a rhai gwledydd eraill, ac mae’n rhoi’r rhyddid i symud heb orfod cynnal gwiriadau wrth groesi ffiniau mewnol.

A map of the Schengen Area

I ymweld â gwledydd yn ardal Schengen, efallai y bydd angen fisa Schengen arnoch chi. Bydd y fisa yn caniatáu ichi aros yn ardal Schengen am hyd at 90 diwrnod mewn cyfnod o 180 diwrnod. Mae’r cyfnod o 90 diwrnod yn cynnwys yr holl amser y byddwch chi’n ei dreulio yn ardal Schengen – gan gynnwys gwyliau a gweithio. Mae dinasyddion Prydeinig wedi’u hepgor rhag yr angen i gael fisa Schengen sy’n golygu nad oes angen fisa arnoch chi i ymweld ag ardal Schengen am hyd at 90 diwrnod o fewn cyfnod o 180 diwrnod.

Cadwch lygad ar sawl diwrnod sydd gennych chi’n weddill yn ystod eich arhosiad byr yn yr UE drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ddefnyddiol gan y Comisiwn Ewropeaidd – mae dolen isod.

Gwyliwch Sebastian Hoffman (Touring Artists) yn esbonio’r cyfnod treigl o 180 diwrnod o 10:38 yn y gweminar yma.