Mae’n bwysig i artistiaid a gweithwyr creadigol eraill wybod y gallwn barhau i gysylltu â’n cymdogion, ein cydweithwyr artistig a chynulleidfaoedd Ewropeaidd. Mae Gwybodfan Celf y DU ac On the Move yn cyflwyno’r sgwrs hon gyda chynhyrchwyr ac artistiaid sydd â phrofiad rhyngwladol, a hynny ar blatfform Edinburgh Fringe Connect 2021. Rydyn ni’n trafod beth sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE, a sut y gall gweithwyr proffesiynol yn y DU baratoi at deithio yn Ewrop yn y dyfodol. Rhoddir cyngor ymarferol a gwybodaeth am ddulliau gweithio, gan drafod ystyriaethau newydd ar gyfer teithio yn rhyngwladol a’r hyn y gellir ei ddysgu o brofiadau’r panelwyr o weithio mewn gwledydd eraill y tu allan i Ewrop.

Roedd y sesiwn yn cael ei chadeirio ar y cyd gan Marie Fol (On the Move) ac Ania Obolewicz (Arts Admin).


Ymhlith y panelwyr roedd:

Callum Smith
Cynhyrchydd
National Theatre of Scotland

Jo Crowley
Cynhyrchydd Gweithredol
1927

Kate Perridge
Cynhyrchydd - Jones the Dance
Rheolwr Prosiect - Intercut Labs gyda Meta Arts

Richard Wakely
Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr
Belfast International Arts Festival
 

Recordiwyd y weminar hon ar 11 Awst 2021 fel rhan o Ŵyl Edinburgh Fringe Connect, ac roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg y recordio.

Lawrlwythwch codau amser y gweminar yma.