Os ydych yn symud nwyddau i’r DU, sydd hefyd yn mynd i ymadael â’r DU - ‘symud nwyddau dros dro’ yw hynny.

Er enghraifft: 

  • Cwmni theatr sy'n gweithio mewn gŵyl ac sy’n dod â set ac offer at ddiben y perfformiad a fydd wedyn yn dychwelyd ar draws ffiniau’r DU.
  • Artist sy’n anfon celfwaith i’r DU i’w arddangos a fydd wedyn yn dychwelyd ar draws ffiniau’r DU.

Darllenwch am sut i wneud cais am awdurdodiad ar gyfer mynediad dros dro i nwyddau a fewnforiwyd ar wefan Llywodraeth y DU yma.
 

Dyma rai pethau y dylech eu hystyried wrth symud nwyddau dros dro i’r DU ac oddi yno:

A fyddech chi’n symud nwyddau rhwng Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a Gogledd Iwerddon?

 

Mae prosesau ychwanegol ar waith ar gyfer symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, a bydd angen i chi wneud cais am awdurdodiad ar gyfer y ddwy diriogaeth ar wahân.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y prosesau hyn ar wefan Llywodraeth y DU yma.

 

A ydych yn gymwys i gael rhyddhad treth fewnforio?

 

Ceir rhestr o eitemau sy’n gymwys i gael rhyddhad treth fewnforio - sy’n golygu y byddwch yn talu llai o dreth, neu ddim treth o gwbl ar yr eitemau a rhestrir. Mae’r rhestr yn cynnwys offerynnau cerdd gludadwy, lle gall cerddorion ddod a’u hofferynnau heb orfod eu datgan ar y ffin. Yn syml, gallant fynd trwy lwybr ‘Dim Byd i’w Ddatgan’ - cyfeirir at hyn fel ‘Datgan Drwy Ymddygiad’.

Gweler rhestr lawn o eitemau cymwys ar wefan Llywodraeth y DU yma.

 

A fyddai Carnet ATA yn opsiwn gwell?

 

Mae Trwydded ATA yn ffordd arall o gludo offer proffesiynol dros dro ar draws ffiniau. Mae’n symleiddio’r broses dollau wrth ichi gyrraedd gwledydd ac ymadael â nhw. Mae’n broses sydd wedi hen ennill ei phlwyf ac yn cael ei defnyddio’n aml gan artistiaid sy’n teithio yn benodol, ond yn dda hefyd er mwyn symud pethau eraill fel celfwaith i’r arddangos.

Gweler y rhestr o nwyddau sy'n gymwys am ATA Carnet ar wefan Llywodraeth y DU yma.

Mae’n bwysig i chi sicrhau na fydd newid yn y pethau a restrir yn y Drwydded wrth groesi pob ffin gwahanol. Wrth gwrdd a swyddog tollau wrth y ffin, bydd hefyd brosesau y mae rhaid i chi ddilyn, ac mae’n bosib y bydd rhaid i chi gyrraedd lleoedd penodol yn y DU sydd yn caniatau prosesu ATA Carnet.

Darllenwch fwy am Drwyddedi ATA a sut i ymgeisio am drwydded ar wefan Llywodraeth y DU yma.