ETIAS yw'r acronym Saesneg ar gyfer System Gwybodaeth ac Awdurdodi Teithio Ewropeaidd (European Travel Information and Authorisation System). Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno yn 2024 a bydd yn effeithio ar wladolion o wledydd nid oes angen fisa arnynt er mwyn ymweld ag Ewrop. Bydd y system yn effeithio ar ymweliadau i'r rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd. Mae'r DU yn un o'r gwledydd hynny sydd wedi’u heithrio rhag angen fisa er mwyn ymweld â gwledydd Ewropeaidd eraill, ac felly bydd angen i wladolion y DU wneud cais am ETIAS cyn dod i mewn i’r rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd pan fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno.

Nid yw'r System Gwybodaeth ac Awdurdodi Teithio Ewropeaidd yn weithredol ac ni chesglir unrhyw geisiadau ar hyn o bryd.

Dysgwch fwy am ETIAS, gan gynnwys y rhestr lawn o wledydd Ewropeaidd a fydd yn gofyn am ETIAS, a phwy sydd angen gwneud cais am ETIAS, ar wefan Teithio Ewrop yr Undeb Ewropeaidd yma.