Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 1 Chwefror am 11:00am GMT am drosolwg o Ewrop Greadigol (is-raglen Ddiwylliant) a sut mae'n berthnasol i'r DU fel gwlad nad yw’n cymryd rhan yn y rhaglen.

Dyddiad: 01 Chwefror 2023
Amser: 11:00am - 12:00pm GMT

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma

Er bod y DU wedi gadael yr UE a menter Ewrop Greadigol, rydym yn dal i fod allan yn Ewrop yn gweithio gyda’n ffrindiau a’n cysylltiadau Ewropeaidd.

Nad yw’r DU bellach yn cymryd rhan yn Ewrop Greadigol, serch hynny, gallwn barhau i ymgysylltu â rhai rhwydweithiau, mentrau a phrosiectau a gefnogir gan Ewrop Greadigol, hyd yn oed os ydym yn ymgysylltu'n fwy anuniongyrchol nag o’r blaen.

Wedi'i gyflwyno gan Gwybodfan Celf y DU, bydd y sesiwn anffurfiol fer hon yn cynnig trosolwg o faes diwylliant rhaglen newydd Ewrop Greadigol yr UE ar gyfer 2021 - 2027. Mae'r rhaglen yn cefnogi'r sectorau creadigol a diwylliannol ar draws aelod-wladwriaethau'r UE a gwledydd cyfranogol eraill gan gynnwys Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein, Albania, Bosnia a Herzegovina, Georgia, Kosovo, Montenegro, Gogledd Macedonia, Serbia, Tunisia, ac Wcráin. Os ydych chi'n gweithio yn Ewrop, mae'n debyg y bydd y digwyddiad hwn yn ddefnyddiol i chi gadw ar ben y cyd-destun ehangach y mae eich cysylltiadau, cymdogion Ewropeaidd a chymheiriaid yn gweithredu ynddo.

Ymunwch â Kate Deans (Creative Scotland & Gwybodfan Celf y DU) a Katie James (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru & Gwybodfan Celf y DU) a chwpl o gyn-fuddiolwyr Ewrop Greadigol i archwilio:

  • Trosolwg o'r prif fentrau y mae'r UE yn eu cynnal ar hyn o bryd ym maes creadigrwydd a diwylliant.
  • Yr hyn sy’n newydd ynglŷn â meysydd Ewrop Greadigol fel Rhwydweithiau, Prosiectau Cydweithredu, Platfformau, Culture Moves Europe (i-Portunus gynt), Music Moves Europe, a Perform Europe.
  • Sut y gall sefydliadau yn y DU ymwneud i raddau llai â mentrau a phartneriaethau Ewrop Greadigol.
  • Cipolwg ar sut mae sefydliadau eraill yn y DU wedi bod yn addasu i gyd-destun newydd.
  • Beth arall y gall Gwybodfan Celf y DU eich cefnogi wedi ymadawiad y DU o'r UE.

Nid yw'r sesiwn hon yn:

  • Set o gyfleoedd ariannu sy’n agored yn uniongyrchol i’r DU (nid yw’r DU bellach yn cymryd rhan nac yn talu i mewn i’r rhaglen).
  • Sesiwn fanwl ar fanylion technegol a ffurflenni cais (nid ydym yn bwynt cyswllt swyddogol ar gyfer y rhaglen).
  • Sesiwn sy'n edrych ar gyllid arall yr UE sydd ar gael i sefydliadau celfyddydol yn y DU.

Rydym yn croesawu mynychwyr i rannu gwybodaeth am gyfleoedd eraill yr UE ar gyfer sefydliadau celfyddydol y DU yn y fforwm hwn.

Wrth inni agosáu at y dyddiad, byddwn yn cyhoeddi’r rhestr lawn o siaradwyr, a fydd yn cynnwys cyn fuddiolwyr Ewrop Greadigol sy’n dal i weithio mewn partneriaethau Ewropeaidd.

Yn dilyn y digwyddiad hwn, byddwn yn cynnal gweithdy bach, caeedig ar gyfer buddiolwyr Ewrop Greadigol blaenorol, lle byddwn yn ymdrin yn fwy manwl â chyfranogiad trydydd gwledydd mewn Prosiectau Cydweithredu. Os ydych wedi rhedeg prosiect Ewrop Greadigol o’r blaen, gallwch anfon neges atom yn gofyn i fynychu'r sesiwn caeedig drwy e-bostio infopoint@wai.org.uk neu cysylltwch drwy Facebook neu Twitter @GwybodfanCelfDU. Gan y byddwn yn ymdrin â phwnc cymhleth iawn, mae'n rhaid i ni gadw hwn yn gyfyngedig i'r rhai sydd eisoes â lefel uchel o ddealltwriaeth o derminoleg, cyllidebau a phrosesau ymgeisio Ewrop Greadigol.