Pwnc: Ymrwymiad Am Dâl a Ganiateir a Consesiwn Fisa Gweithiwr Creadigol - Gwaith Dros Dro: Sut mae'r llwybrau fisa yn gweithio'n ymarferol

Cyfranwyr gwadd: 
Gary McIndoe a Katerina Woodcock (Latitude Law)
Lissy Lovett (Mimbre)

Adnoddau a rennir yn ystod y sesiwn:
Sleidiau cyflwyniad Lissy Lovett - Profiadau gyda llwybrau fisa byr dymor dros dro
Latitude Law - Cwestiynau cyffredin ar lwybrau fisa byr dymor dros dro

--

A ydych yn croesawu, neu yn bwriadu croesawu artistiaid rhyngwladol i'r DU am gyfnod dros dro byr dymor? Dewch i'n bore coffi ar-lein nesaf i rannu gyda chyfoedion eich profiadau, cynlluniau a heriau sy'n gysylltiedig â bod yn sefydliad noddwr, neu i ddarganfod mwy am lwybrau fisa  Ymrwymiad Am Dâl a Ganiateir a Consesiwn Fisa Gweithiwr Creadigol - Gwaith Dros Dro.

Os ydych yn gwahodd artistiaid rhyngwladol i’r DU, mae’n debygol eich bod yn ystyried y llwybr fisa Ymrwymiad Am Dâl a Ganiateir (PPE). Neu os ydych yn noddwr, gall rhai artistiaid fanteisio ar y Consesiwn Fisa Gweithiwr Creadigol - Gwaith Dros Dro. Ers i’r DU adael yr UE, bydd sefydliadau’r DU sy’n croesawu artistiaid rhyngwladol wedi defnyddio’r llwybrau mewnfudo hyn yn fwy aml, a byddwn yn archwilio sut mae hyn yn gweithio’n ymarferol yn y bore coffi hwn.

Mae’r sesiwn yn gyfle i gyfnewid profiadau gyda’r llwybrau fisa hyn, a’i nod yw rhannu dysgu a gwybodaeth yn ogystal â chodi hyder! Byddwn yn archwilio'r pwnc mewn ffordd addysgiadol ac ymarferol, wrth i ni gynrychiolwyr o bractis cyfraith mewnfudo Latitude Law, a chynrychiolydd profiadol o'r sector diwylliannol ymuno â ni.

Cyfarwyddwr Gweithredol i gwmni Mimbre yw Lissy Lovett, sef cwmni cynhyrchu sy’n creu theatr acrobatig mewn lleoliadau awyr agored ac anarferol dan arweiniad menywod. Mae'r cwmni yn teithio’n rhyngwladol ac yn aml yn gweithio gydag artistiaid rhyngwladol trwy eu croesawu i'r DU. Bydd Lissy yn rhannu eu profiad o’r broses ymgeisio i fod yn noddwr cofrestredig swyddogol y Swyddfa Gartref, yn ogystal â phrofiad o ddefnyddio’r llwybr Ymrwymiad Am Dâl a Ganiateir (PPE), a chynlluniau i wahodd artistiaid rhyngwladol yn y misoedd nesaf trwy lwybrau fisa byr dymor dros dro. Rydym yn croesawu mynychwyr hefyd i rannu eich profiadau o gwmpas llwybrau fisa hyn yn ystod y sesiwn.

 

--

Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma

Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol.

Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT.

Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.

Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.