Ein bore coffi nesaf fydd am:
10am ddydd Iau 26 Mehefin 2025
Pwnc:
Esbonio Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop (NEMO)
Ein siaradwr gwadd nesaf fydd:
Søren Merrild Staun, cyfarwyddwr dros dro y Gronfa Ddiwylliannol Nordig
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gronfa Diwylliant Nordig (mewn partneriaeth ag asiantaethau ariannu celfyddydau Cymru, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr) gronfa symudedd newydd o’r enw Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop. Bydd yr alwad ariannu yn agor yn Awst 2025 i gefnogi cyfnewid a chydweithio artistig i ymarferwyr ar draws y rhanbarth Nordig, y DU ac Iwerddon.
Bydd Søren Merrild Staun o'r Gronfa Diwylliant Nordig yn ymuno â ni i esbonio'r gronfa ac ateb eich cwestiynau.
Mae'r gwledydd Nordig, y DU ac Iwerddon yn lleoedd ffrwythlon i gydweithio’n greadigol. Erbyn hyn mae gweithio ar draws y rhanbarth yn anos gyda chostau cynyddol a rhwystrau newydd i symudedd. Mae’r alwad i ymarferwyr celfyddydol unigol ar ddechrau eu gyrfa gan gydnabod eu hangen arbennig am gyfleoedd ac arian.
Nod y rhaglen yw meithrin cydweithio rhyngwladol, datblygu rhwydweithiau artistig ac annog rhagor o ymarferwyr celfyddydol i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol. Mae angen brys am undod, cydweithio a chyd-ddeall rhwng ein cymdogion.
Y gronfa fydd yn gweinyddu'r alwad agored. Bydd yn gyfle i artistiaid yn y DU ac Iwerddon wneud ceisiadau i ymgysylltu ag ymarferwyr eraill yn y gwledydd Nordig - Denmarc, Ynysoedd Ffaröe, y Ffindir, yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ, Norwy, Sweden ac Ynysoedd Åland (ac i'r gwrthwyneb) gyda grantiau o hyd at € 9,000 yr un. (€ 300,000 yw cyfanswm y gyllideb.)
Bydd rhagor o fanylion ym Mehefin.
Os ydych yn artist sy’n byw yn un o’r gwledydd uchod ac am ddysgu rhagor, dewch atom i drafod y gronfa a gofyn cwestiynau.
---
Mae’r bore coffi ar-lein misol ar agor i bob celfyddyd. Mae’n gyfle i’ch cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU a thrafod problemau, cynlluniau a gobeithion am weithio ar draws ffiniau. Ym mhob un bydd cyfraniad gan un o’n partneriaid neu’n rhwydweithiau am symudedd rhyngwladol.
Fel arfer maent yn digwydd ar-lein y dydd Mawrth cyntaf o'r mis rhwng 9.30am a 10.30am.
Y siaradwr sy’n llunio agenda bob tro gan o bosibl gynnwys gweinyddu arddangosfeydd neu gynyrchiadau, cefnogi artistiaid gyda rheolau mewnfudo newydd neu drafod y problemau mae pawb yn eu hwynebu. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol a chefnogol o bobl yn yr un maes sy'n canolbwyntio ar waith rhyngwladol.
Mae capsiynau ar gael yn ystod y bore coffi.