Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma.
Ein bore coffi nesaf yw:
9:30am BST | 8 Awst 2023
Pwnc: Cronfa Blwyddyn 3 y Bont Ddiwylliannol
Ein cyfrannwyr Gwadd nesaf yw: Lorna Palmer (Arts Council England)
Yn ein bore coffi ar-lein nesaf, bydd Lorna Palmer (sy’n arwain ar raglen gyllido ryngwladol y Bont Ddiwylliannol gyda Arts Council England) yn ymuno â ni wrth i ni archwilio Cyfleoedd Ariannu Blwyddyn 3 y Bont Ddiwylliannol (2024-2025).
Mae’r Bont Ddiwylliannol yn dathlu partneriaethau artistig dwyochrog rhwng y DU a’r Almaen trwy gydweithio rhwng Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, British Council, Creative Scotland, Fonds Soziokultur, Goethe-Institut London a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru / Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r rhaglen yn cefnogi cyfnewid rhyngddiwylliannol a deialog ym maes celfyddydau a diwylliant cyfranogol. Ers ei lansio yn 2021, hyd yma mae wedi galluogi 44 o sefydliadau sy’n gosod cymunedau wrth galon eu gwaith, i adeiladu a datblygu partneriaethau newydd sy’n caniatáu archwilio a chyfnewid arferion rhwng yr Almaen a’r DU.
Bydd Lorna yn trafod y rhaglen cyn i’r gronfa ail-agor ym mis Hydref ar gyfer rhaglen 2024-2025, a’r sesiwn paru sy’n digwydd ym mis Medi. Bydd cyfle i glywed am brosiectau blaenorol a gofyn cwestiynau am y rhaglen. Byddai’n fuddiol edrych ar y canllawiau cyhoeddedig yn gyntaf sydd i’w gweld yma a manylion am sut i gofrestru ar gyfer y sesiwn paru.
---
Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol.
Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT.
Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.
Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.